Croeso
Croeso i chwi i wefan Ysgol y Castell, Caerffili.
Ymfalchiwn yn ein disgyblion a safonau uchel yr ysgol. Cynigwn ystod eang o weithgareddau allgyrsiol er mwyn i'r disgyblion "brofi yr iaith ar waith."
Ein nôd yw datblygu'r plentyn cyflawn a chreu awyrgylch ddiogel, hapus a Chymreig.
"Mae gan yr ysgol ethos Cymreig naturiol sy'n ennyn balchder y disgyblion yn yr iaith Gymraeg a threftadaeth Cymru. Mae'r ysgol yn manteisio ar lawer o adnoddau lleol a chenedlaethol er mwyn ehangu dealltwriaeth y disgyblion o Gymru a'i diwylliant. Mae'r profiadau hyn yn greiddiol i fywyd yr ysgol."
" Mae ethos cynhwysol, croesawgar, cynnes a gofalgar yn bodoli yn yr ysgol gyda disgyblion yn croesawu ymwelwyr gyda gwên ac yn barod i sgwrsio. Mae pwyslais gwerthfawr ar yr hawl i fod yn hapus." ESTYN 2016
Wrth wynebu her yr ugeinfed ganrif ar hugain, ein braint yw trosglwyddo ein hetifeddiaeth i'n disgyblion fel y cadwer i'r oesoedd a ddêl y glendid a fu. "Cerddwn ymlaen â ffydd yn ein cân."