Hanes yr ysgol a'r adeiladau
Fe agorodd yr ysgol ym Medi 1995 gyda 118 o blant fel ymateb i'r galw cynyddol gan rieni am Addysg Gymraeg. Pennaeth cyntaf yr ysgol oedd Mrs Meinir Llewelyn a ddilynwyd gan Miss Gwenllian Jenkins a benodwyd yn Ionawr 1998. Mrs Helen Nuttall yw ein Pennaeth presennol; cafodd ei phenodi ym Medi 2009. Erbyn hyn, mae'r ysgol yn ffynnu gyda 350 o ddisgyblion.
Adnewyddwyd yr adeilad [a oedd yn wreiddiol yn Ysgol Ramadeg y Merched i'r safon uchaf posib.Yn edrych allan dros Gastell Caerffili, sy'n dod a'r gorffennol yn fyw, mae'r ysgol mewn safle unigryw gyda golygfeydd godidog.
Daw'r mwyafrif llethol o'r disgyblion o aelwydydd Saesneg eu hiaith. Yn y dalgylch cynhwysir Bedwas, Machen, Trethomas, Graig y Rhacca, Llanbradach a rhannau o Gaerffili. Mae cludiant rhad ac am ddim ar gyfer disgyblion sy'n byw fwy na milltir a hanner o'r ysgol.

