Thema: Tymor y Gwanwyn 1
“Plant y Chwyldro”
Mae’r prosiect hwn yn canolbwyntio ar hanes ac yn dysgu plant am y cyfnod Fictoraidd gan gynnwys bywydau’r cyfoethog a’r tlawd a newidiadau cymdeithasol a moesol pwysig eraill yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Wrth wraidd y prosiect hwn mae plant yn dysgu sut i ysgrifennu adroddiadau papur newydd ac eraill ar thema hanesyddol a dysgu sgiliau ychwanegol wrth ysgrifennu’n esboniadol.
Yn y prosiect hwn bydd y plant yn dysgu:
• Am y cyfnod Fictoraidd;
• Am faterion cymdeithasol, moesol a thechnolegol y cyfnod;
• Am bobl bwysig y cyfnod gan gynnwys y rheiny gafodd ddylanwad ac a achosodd newidiadau;
• Sut i ysgrifennu ystod o adroddiadau;
• Am y gwahaniaethau rhwng plentyndod heddiw a’r cyfnod Fictoraidd.
Gwybodaeth pellach:
- Gwersi Addysg Gorfforol: Dydd Mawrth a Dydd Iau
- Gwaith Cartref: Yn achlysurol
- Llyfrau Darllen: Wythnosol
- Tripiau: Chwefror 13eg, Sain Ffagan (Ysgol Oes Fictoria)
Thema: Tymor y Gwanwyn 2
“Y Synhwyrau”
Mae’r prosiect hwn yn canolbwyntio ar wyddoniaeth ac yn dysgu plant am olau a sain a sut mae’r rhain yn teithio. Wrth wraidd y prosiect hwn mae plant yn dysgu sut i ysgrifennu cerddi ar y thema golau a sain a dysgu sgiliau ychwanegol mewn cofnodi gwyddonol ac ysgrifennu esboniadol. Yn y Cam Arloesi mae plant yn cymhwyso eu sgiliau a’u dealltwriaeth trwy ddefnyddio golau a sain i greu ardal synhwyraidd ryngweithiol.
Yn y prosiect hwn bydd y plant yn dysgu:
• Sut mae sain yn teithio a sut y gellir gwneud synau’n uwch neu’n dawelach;
• Sut mae clustiau a llygaid yn gweithio ac enwau gwahanol rannau’r glust a’r llygad;
• Sut y ffurfir cysgodion a sut mae’r rhain yn newid yn ôl safle’r haul;
• Am bobl a dyfeiswyr pwysig sydd wedi hybu technoleg golau a sain;
• Sut mae absenoldeb golwg a chlyw yn effeithio ar fywyd pob dydd pobl;
• Sut i ddefnyddio golau a sain yn greadigol mewn celf, cerddoriaeth a chyfrwng creadigol eraill megis ffotograffiaeth;
• Sut i ysgrifennu cerddi ar thema.
Gwybodaeth pellach:
- Gwersi Addysg Gorfforol:- Dydd Mawrth a Dydd Iau
- Gwaith Cartref:- Yn achlysurol
- Llyfrau Darllen:- Yn wythnosol